Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Hydref 2020
Amser:
09.30 -
11.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6470
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Tystion: |
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd Chris Warner, Llywodraeth Cymru James Gerard, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd David Melding fuddiant mewn perthynas ag eitem 2.
2 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2
Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog (tan 9.55am) a'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â'i ymchwiliad ynghylch Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru.
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(5)623 - Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
3.2 SL(5)628 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.3 SL(5)625 - Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.4 SL(5)626 - Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.5 SL(5)627 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
3.6 SL(5)629 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(5)619 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn am eglurhad pellach mewn perthynas â'r amserlenni ar gyfer adolygu cyfyngiadau lleol.
4.2 SL(5)621 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
5 Is-ddeddfwriaeth sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7
5.1 C(5)042 - Gorchymyn Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (Cychwyn) 2020
Trafododd y Pwyllgor y Gorchymyn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
6 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
6.1 WS-30C(5)167 - Rheoliadau yr Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Ymadael â'r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
6.2 WS-30C(5)168 - Rheoliadau Maeth (Diwygio etc) (Ymadael â'r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
7 Papurau i'w nodi
7.1 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Gwaith dilynol i sesiwn graffu’r Pwyllgor ar 21 Medi 2020
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
7.2 Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Bil Marchnad Fewnol y DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
9 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Prif Weinidog.
10 Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020: Trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i’w drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cam-drin Domestig: Trafod gohebiaeth
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cam-drin Domestig a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am eglurhad pellach cyn drafftio ei adroddiad.
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) (Rhif 2): Trafod y materion allweddol
Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2). Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
13 Rheoliadau Covid-19: Trafod gohebiaeth
Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd mewn perthynas â chraffu ar reoliadau Covid-19 a chytunodd i drafod ei ymateb yn y cyfarfod nesaf.